Prove you are an employee. back
Mae AFKA yn gweithio ar y cyd â Rhwydwaith DDP y DU i redeg cyrsiau DDP Lefel 1 a 2.
MaeLefel 1 yn hyfforddiant rhagarweiniol 4 diwrnod ar Seicotherapi Datblygiadol Dyadig, model ymyrraeth ar gyfer teuluoedd â phlentyn sydd â phroblemau ymlyniad trawma, a ddatblygwyd gan Dan Hughes, Seicolegydd Clinigol, UDA. Yn yr hyfforddiant hwn, mae theori ac ymchwil ym meysydd trawma datblygiadol, datblygiad plant a theori ymlyniad wedi’u hintegreiddio i gynhyrchu ymagwedd therapiwtig a model magu plant a ddefnyddir ar gyfer datblygu perthynas a datrys trawma. Mae DDP yn cydnabod y rôl hanfodol y mae rhieni mabwysiadol a gofalwyr maeth yn ei chwarae fel ffigurau ymlyniad sylfaenol yn adferiad plant sydd wedi’u trawmateiddio ac sy’n gwrthsefyll ymlyniad.
Cyflwynir yr egwyddorion a’r ymyriadau trwy gyflwyniadau ffurfiol, trafod, tâp fideo o sesiynau, chwarae rôl a thaflenni.
Amcanion
Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd cyfranogwyr yn deall:
MaeLefel 2 yn gwrs 4 diwrnod sy’n agored i’r gweithwyr proffesiynol hynny sydd wedi ymgymryd â’r hyfforddiant Lefel Un 4 diwrnod ar gyfer Ymarfer Datblygiadol Dyadig a Seicotherapi (DDP). Mae Seicotherapi Datblygiadol Dyadig yn fodel ymyrraeth a ddatblygwyd gan Dan Hughes, Seicolegydd Clinigol, UDA.
Mae’r ymagwedd hon yn helpu gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr clinigol, therapyddion ac ymarferwyr eraill i ddeall a chynorthwyo plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn effeithiol. Yn y model hwn, mae theori ac ymchwil ym meysydd trawma datblygiadol, datblygiad plant a theori ymlyniad wedi’u hintegreiddio i gynhyrchu ffordd o weithio sy’n helpu gyda datblygu perthynas a datrys trawma. Mae DDP yn cydnabod y rôl hanfodol y mae rhieni mabwysiadol, gofalwyr maeth, gweithwyr preswyl a gweithwyr cymdeithasol yn ei chwarae yn adferiad plant sydd wedi’u trawmateiddio, sy’n gwrthsefyll ymlyniad.
Amcanion:
Pwy ddylai fod yn bresennol?
Mae’r hyfforddiant yn berthnasol ac yn agored i therapydd ac ymarferwyr sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phroblemau ymlyniad trawma a’u teuluoedd maeth, mabwysiadu neu eni. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, Seicolegwyr Clinigol ac Addysgol, Therapyddion Galwedigaethol, Therapyddion Chwarae, Therapyddion Celf, Seiciatryddion, Gweithiwr Cymdeithasol a Gweithwyr Cymdeithasol Gofal Preswyl.
Mae croeso i Rieni Mabwysiadol a Gofalwyr Maeth fynychu gyda’r ddealltwriaeth bod yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar sut i ddarparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd. Nid yw’n briodol ystyried yr hyfforddiant hwn fel dewis arall neu ychwanegiad at wasanaethau cymorth mabwysiadu, cymorth rhianta neu ymyrraeth therapiwtig y dylid ei darparu yn ardal leol y rhiant neu’r gofalwr maeth.