Prove you are an employee. back
‘Mae grŵp cyfreithiol AFKA Cymru yn grŵp sydd wedi’i hen sefydlu, ar agor i bob cyfreithiwr ym maes gofal plant cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n cyfarfod bob chwarter (ar hyn o bryd ychydig yn amlach er mwyn rhannu gwybodaeth sy’n gysylltiedig â Covid), fel arfer yn swyddfa Dewi Sant. Fodd bynnag, fel gyda chymaint o grwpiau, rydym yn canfod bod cyfarfod o bell o fudd mawr i gydweithwyr o bob rhan o’r wlad allu cyfarfod ac rydym yn bwriadu cadw elfen o gyfarfod o bell unwaith y bydd y pandemig drosodd.
Mae ein pynciau trafod yn amrywio ar draws y maes cyfraith gofal plant cyhoeddus, gan gynnwys achosion gofal a lleoli a materion sy’n codi o’r llys teulu, plant sy’n derbyn gofal, maethu, mabwysiadu a gwarcheidiaeth arbennig.
Mae aelodau rheolaidd ac achlysurol y grŵp yn ei chael yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol i gadw’n gyfredol ag ymarfer ar draws awdurdodau lleol.’
Mae’r grŵp yn agored i unrhyw gyfreithiwr ym maes gofal plant cyhoeddus sy’n ymarfer yng Nghymru; os nad ydych chi ar y grŵp ac yr hoffech ymuno, cysylltwch â ni.
Yn draddodiadol mae’r grŵp wedi cyfarfod yn ardal De Cymru. Fodd bynnag, fel gyda chymaint o grwpiau, rydym yn canfod bod cyfarfod o bell o fudd mawr i gydweithwyr o bob rhan o’r wlad allu cyfarfod ac rydym yn bwriadu cadw elfen o gyfarfod o bell unwaith y bydd y pandemig drosodd.
Os hoffech wybod rhagor am waith y Grŵp Diddordeb Arbennig hwn, cysylltwch ag aelod cynrychioliadol eich sefydliad.
Contact us