Prove you are an employee. back
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y bydd y swyddogaeth IRM yn parhau i weithredu fel gwasanaeth annibynnol a reolir gan endid ar wahân.
Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu nifer y gofalwyr maeth a’r mabwysiadwyr yng Nghymru i gynorthwyo ein poblogaeth plant sy’n derbyn gofal. Maent yn annog pobl o amrywiaeth o gefndiroedd i ystyried maethu neu fabwysiadu, a hefyd i annog mwy o leoliadau Cymraeg. Felly mae’n hanfodol bod uniondeb a thryloywder yn y system i annog darpar ofalwyr maeth a mabwysiadwyr i ddod ymlaen a’u bod yn teimlo’n hyderus na chaiff unrhyw un ei gau allan heb ystyriaeth ac adolygiad llawn.
Gweler y llythyr ynghlwm at Randdeiliaid.
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar gynnydd, gwelliannau, a heriau i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) yn 2020/21.
“Mae’r adroddiad yn amlygu’r swm sylweddol o waith rhagorol sy’n digwydd yn ein gwasanaethau ledled Cymru, cynnydd wrth ddiwallu nodau datblygu a gwella ynghyd â’r lefelau cynyddol o foddhad gan y bobl, plant ac oedolion fel ei gilydd, sy’n defnyddio ein gwasanaethau.Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwraig y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
Arweiniodd yr achosion o goronafeirws (COVID-19) at y mwyafrif o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai o grwpiau bregus a difreintiedig, yn methu â mynd i’w man dysgu yn ystod y cyfnod cau ysgolion a lleoliadau. Effeithiodd hyn ar eu gallu i gael mynediad at addysg a gwasanaethau eraill y byddent fel arfer wedi cael mynediad atynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Canllawiau sy’n Cynorthwyo Dysgwyr Bregus Difreintiedig
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Gwynedd am gyfieithu ein gwiriadau a’n hadnoddau cyfeirio, i’w defnyddio gyda’r holl ffurflenni asesu teulu, i’r Gymraeg, ac am ganiatáu i ni eu dosbarthu i asiantaethau mabwysiadu a maethu yng Nghymru ac â swyddfeydd yng Nghymru.
Gellir defnyddio’r adnoddau gyda’n Ffurflen F (Maethu Cymru) yn ogystal â chydag Adroddiad y Ddarpar Fabwysiadwr (Cymru), ac fe’u cyflenwir am ddim i bob asiantaeth sydd â thrwydded ar gyfer y naill ffurflen neu’r llall.
E-bostiwyd y templedi at asiantaethau gyda’r drwydded briodol yn gynharach ym mis Awst – os nad ydych yn siŵr pwy yn eich asiantaeth a dderbyniodd y templedi, anfonwch e-bost at pubs.sales@corambaaf.org.uk.
Mae ein Canllaw Arfer Da poblogaidd, Ymgymryd â Gwiriadau a Chanolwyr mewn Asesiadau Maethu a Mabwysiadu, yn esbonio sut i ddefnyddio’r adnoddau hyn orau, ynghyd â chyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol arall ar y pwnc hwn. Gellir ei archebu yma.
Mae Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl y Person Ifanc yn cyfeirio pobl ifanc, rhwng 11 a 25 oed, at amrywiaeth o adnoddau ar-lein a all eu helpu trwy’r cyfyngiadau symud a thu hwnt. Ym mhob un o’r chwech adran mae gwefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles. Mae hyn wedi bod yn seiliedig ar yr adnoddau y mae awdurdodau lleol Cymru a byrddau iechyd Cymru eisoes yn argymell i’w defnyddio.
Bydd y Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl yn cael ei adolygu’n gyson ac felly gall fod yn destun newid yn unol ag anghenion datblygol plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig coronafeirws. Y ddolen i’r pecyn cymorth yn Saesneg.
Mae’r llyfr yn ateb cwestiynau allweddol mewn iaith syml sy’n briodol ar gyfer plant 5 i 9 oed:
Mae’r papur diweddaraf a gyhoeddwyd o Astudiaeth Carfan Mabwysiadu Cymru ar gael yn awr. Mae’r papur hwn yn profi effaith cynhesrwydd rhieni ar y berthynas rhwng adfyd cynnar ac iechyd meddwl plant.
Rydym yn falch o’ch hysbysu bod y modiwlau hyfforddiant ôl-gymeradwyo a luniwyd gan AFACymru ac AUK yn awr ar gael ar wefan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Gellir lawrlwytho’r Fframwaith a’r Cofnod Dysgu Personol a’r Cynllun Datblygu yma.
Gellir lawrlwytho’r Fframwaith a’r Cofnod Dysgu Personol a’r Cynllun Datblygu yma.
Gellir lawrlwytho’r Fframwaith a’r Cofnod Dysgu Personol a’r Cynllun Datblygu yma.
Mae gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Adnoddau LJW o adnoddau ar-lein wedi’u hanelu at bawb sy’n ymwneud â mabwysiadu yng Nghymru.
Mae’r adnodd wedi’i anelu at fabwysiadwyr, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, staff cymorth, rhieni biolegol, plant a phobl ifanc wedi’u mabwysiadu, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy’n rhan o’r broses fabwysiadu. Mae rhywbeth ar gyfer pob grŵp.
Gellir lawrlwytho’r Fframwaith a’r Cofnod Dysgu Personol a’r Cynllun Datblygu yma.
Adolygu a monitro Cynllun Gofal a Chymorth Rhan 6 plentyn neu berson ifanc.
Mae’r canllaw safonau ymarfer ac arfer da hyn yn nodi’n fanwl y ffyrdd y dylai’r IRO fonitro ac adolygu a chynorthwyo cynllun gofal a chymorth y plentyn neu’r person ifanc. Mae hefyd yn nodi’r cyfrifoldebau sydd gan awdurdod lleol wrth sicrhau bod yr IRO yn gallu cyflawni ei waith.
Ydych chi’n ystyried dod yn ofalwr maeth? Mae gan CoramBAAF adnoddau gwych i’ch cynorthwyo.
Ydych chi’n ystyried dod yn rhiant sy’n mabwysiadu? Mae gan CoramBAAF adnoddau gwych i’ch cynorthwyo.
Mae’r canllaw hwn wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru er mwyn adeiladu ar ei gwaith presennol ym maes gwarcheidiaeth arbennig. Fe wnaeth Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2018, ynghyd â’r Cod Ymarfer cysylltiedig, ddiweddaru ac adnewyddu’r fframwaith Cymreig. Mae’r rheoliadau’n nodi nifer o feysydd cymorth y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu darparu.
Mae’r canllaw wedi’i ddrafftio wrth ymgynghori â grŵp cyfeirio, yn cynnwys academyddion, rheolwyr, ymarferwyr, Cafcass Cymru a Phlant yng Nghymru. Mae tri grŵp ymgynghori wedi cael eu cynnull gyda gweithwyr proffesiynol a chynhaliwyd tri digwyddiad ymgynghori gyda gwarcheidwaid arbennig ledled y wlad. Ymgynghorwyd â’r plant a’r bobl ifanc dan sylw trwy holiadur a anfonwyd gyda gwarcheidwaid arbennig o’r digwyddiadau ymgynghori.
Roedd y briff gwreiddiol gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys mapio darpariaeth gyfredol gwasanaethau gwarcheidiaeth arbennig ledled Cymru. Er gwaethaf ymdrechion AFA, roedd nifer yr holiaduron cymorth a’r holiaduron cyllid a ddychwelwyd o’r 22 awdurdod lleol yn gyfanswm o chwech yn unig. Roedd y rhain, fodd bynnag, yn addysgiadol iawn ac rydym yn diolch yn ddiffuant i’r rhai a’u dychwelodd. Mae’r wybodaeth a gafwyd o’r holiaduron yn cynnwys de-ddwyrain, gorllewin a gogledd Cymru ac fe’i defnyddiwyd i lywio’r canllaw.
Mae’r nodyn ymarfer hwn yn cyfeirio at ddefnyddio ffurflen Iechyd Oedolion (AH) CoramBAAF. Defnyddir y ffurflen hon i goladu gwybodaeth gynhwysfawr gan ymgeisydd, ei feddyg teulu, ac sydd wedyn yn cael ei hasesu a chael sylwadau arni gan weithiwr meddygol proffesiynol cymwys sy’n gweithredu yn swydd Cynghorydd Meddygol.
Dyfeisiwyd y canllaw ymarfer hwn gan AFKA Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ac mae i’w ddefnyddio wrth weithredu Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018. Mae’n ymgorffori adborth gan ymarferwyr maethu ac aelodau paneli a fynychodd y rhaglen hyfforddi helaeth a gyflwynwyd gan AFKA Cymru. Gwnaed cyfraniad gan nifer sylweddol o ddarparwyr gwasanaethau maethu yn yr awdurdodau lleol a’r sector annibynnol ledled Cymru trwy gydol 2019, ac o’r digwyddiadau ymgynghori yng Ngogledd a De Cymru ar yr Adroddiad Darpar Ofalwyr Maeth Cymru newydd (Ffurflen F).
Comisiynwyd y canllaw arfer da hwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno set newydd o Reoliadau sydd wedi’u drafftio i fynd i’r afael â’r problemau y mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu yn eu profi. Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar elfen faethu’r rheoliadau.
Bydd y rheoliadau’n dod i rym ar 1 Tachwedd a byddant yn aros tan 31 Mawrth 2021 neu pan fydd amgylchiadau’n gwella, pa un bynnag sydd gynharaf.
Gwybodaeth isod ar gyfer gwneud proses ymgeisio i gael gwybodaeth am droseddoldeb tramor i’w darparu i gyflogwyr yn y Deyrnas Unedig neu i fodloni gofynion Rheolau Mewnfudo’r Deyrnas Unedig i ddarparu tystysgrif cofnod troseddol dramor i gefnogi cais am fisa.
Dyfeisiwyd y canllaw ymarfer hwn gan AFKA Cymru ar ran Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, a chyda chymorth is-grŵp polisi a gweithdrefn NAS. Mae’r canllaw i’w ddefnyddio wrth weithredu Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020.
Datblygwyd y canllaw ymarfer hwn gan AFKA Cymru yn dilyn briff wedi’i gomisiynu gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru. Nod y canllaw ymarfer yw darparu cyd-destun ar gyfer y ddarpariaeth Gymreig newydd o ‘faethu i fabwysiadu’ a gynhwysir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Er mwyn mynd at y ddarpariaeth maethu i fabwysiadu, mae angen deall cysyniad, egwyddorion ac arfer cynllunio ‘sefydlogrwydd cynnar’ ar gyfer plant, gan gynnwys ‘cydamseru’ ac, ar gyfer osgoi dryswch, y ‘maethu i’w fabwysiadu’ Seisnig sy’n wahanol i’r ddarpariaeth Gymreig.
Bydd y canllaw ymarfer hwn yn egluro’r gwahanol fathau o gynllunio sefydlogrwydd yng Nghymru a Lloegr; Darparu’r fframwaith polisi, cyfreithiol ac ymarfer i faethu i fabwysiadu; ac ystyried y posibiliadau a’r heriau ar gyfer sefydlogrwydd cynnar i blant y mae’r ddarpariaeth maethu i fabwysiadu ar gyfer Cymru yn eu creu.
Gwybodaeth ar gyfer oedolion wedi’u mabwysiadu ac oedolion ôl-ofal (maethu).
Mae gan CoramBAAF adnoddau gwych i’ch cynorthwyo.
Gweler ein esbonwyr fideo isod. I weld cyfoeth o adnoddau ychwanegol cliciwch ar ‘gweld adnoddau’.
Mae’r cysyniad a’r arfer o gymorth mabwysiadu wedi datblygu ochr yn ochr â’n dealltwriaeth gynyddol o brofiadau’r rhai sy’n rhan ohono: y plentyn, y rhiant sy’n mabwysiadu a’r rhiant biolegol.
Mae cysyniad ac arferion cymorth mabwysiadu wedi datblygu gyda’n dealltwriaeth gynyddol o brofiadau’r sawl sy’n rhan o’r broses: y plentyn, y rhiant sy’n mabwysiadu a’r rhiant biolegol. Rhoddwyd sylfaen cyfreithiol i gymorth mabwysiadu gyda chyflwyniad y Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a’r rheoliadau a aeth gyda hi. Ers hynny, mae ymchwil wedi amlygu’r angen i gael cymorth mabwysiadu i ddiwallu anghenion teuluoedd yn ystod plentyndod y plentyn.
Gellir dadlau bod mabwysiadu yn un o’r ymyriadau teuluol mwyaf llym, gan ei fod yn torri cysylltiadau cyfreithiol plentyn â’u teulu biolegol yn barhaol. Felly, mae’n rhaid ystyried y penderfyniad i fynd ar drywydd mabwysiadu yn ofalus iawn, ac mae’n un o’r agweddau mwyaf cymhleth ac anodd ar rôl gweithiwr cymdeithasol (Featherstone et al, 2018). Mae mabwysiadu hefyd yn gam sy’n torri cylch hir camweithrediad cenedlaethau (Alper, 2019) a’r mwyaf llwyddiannus wrth wneud hynny (Selwyn, 2014). Mae mwyafrif y plant yn cael eu symud trwy achos gofal gyda chanran fach yn cael eu gollwng; fodd bynnag, mae egwyddorion gweithio â rhieni biolegol yn berthnasol i’r ddau.
Gellir dadlau bod mabwysiadu yn un o’r ymyriadau teuluol mwyaf llym, gan ei fod yn torri cysylltiadau cyfreithiol plentyn â’u teulu biolegol yn barhaol. Felly, mae’n rhaid mynd ati’n ofalus iawn i ystyried y penderfyniad i fynd ar drywydd mabwysiadu, ac mae’n un o’r agweddau mwyaf cymhleth ac anodd ar rôl gweithiwr cymdeithasol (Featherstone et al, 2018). Mae mabwysiadu hefyd yn gam sy’n torri cylch camweithrediad hir ymhlith cenedlaethau (Alper, 2019) a’r mwyaf llwyddiannus wrth wneud hynny (Selwyn, 2014). Mae mwyafrif y plant yn cael eu symud trwy achos gofal gyda chanran fach yn ildio; fodd bynnag, mae egwyddorion gweithio â rhieni biolegol yn berthnasol i’r ddau.
Mae’r canllaw yn cael ei ysgrifennu wrth i ni agosáu at 100 mlynedd ers y ddeddfwriaeth fabwysiadu gyntaf yn y DU (Deddf Mabwysiadu a Phlant 1926). Mae’n amlwg y bu newidiadau enfawr yn y cyfnod hwnnw. Am lawer o’r ugeinfed ganrif roedd lleoli plentyn yn cael ei ystyried fel ‘diwedd’ un rhan o fywyd plentyn gan ystyried bod eu hunaniaeth yn cael ei ffurfio o’r pwynt mabwysiadu. Mor hwyr â’r 1970au anfonwyd plant dramor i ddechrau ‘bywyd newydd’. Roedd y cysyniad hwn o ddechrau o’r newydd wedi’i ymgorffori yn y gyfraith fabwysiadu.
Mae’r canllaw hwn yn cael ei ysgrifennu wrth i ni ddynesu at 100 mlynedd ers deddfwriaeth mabwysiadu cyntaf y DU (Deddf Mabwysiadu a Phlant 1926). Mae’n amlwg y bu
newidiadau enfawr yn y cyfnod hwnnw. Am y rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif, roedd lleoli plentyn yn cael ei ystyried fel ‘diwedd’ un rhan o fywyd plentyn gyda’u hunaniaeth yn cael ei weld fel rhywbeth a oedd yn cael ei lunio o’r pwynt mabwysiadu ymlaen. Mor ddiweddar â’r 1970au anfonwyd plant dramor i gychwyn ‘bywyd newydd’. Roedd y syniad hwn o gychwyn o’r newydd wedi ei wreiddio yn y gyfraith ar fabwysiadu.
Bwriad y canllaw hwn yw darparu ymagwedd amlinellol at ymddygiadau, meddylfryd a chamau gweithredu a fydd yn ein galluogi ni i gyd i greu profiad cyson, effeithiol a chadarnhaol i’r cwsmer ar gyfer gofalwyr maeth yr Awdurdod Lleol, o’u cam cyntaf a thrwy gydol eu taith gyda ni.
Pan na all plant ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl gofal, mae mabwysiadu yn darparu diogelwch cyfreithiol, cariad ac ymdeimlad o berthyn mewn teulu newydd. Fodd bynnag, mae mabwysiadu hefyd yn golygu bod rhaid i’r plentyn, sydd wedi dioddef trawma a cholled gynnar, gael ei wahanu oddi wrth deulu maeth lle maent wedi teimlo’n ddiogel a’u bod wedi’u caru, yn ogystal ag oddi wrth arferion ac amgylchoedd cyfarwydd (Neil et al 2020). Er bod ymarferwyr a gofalwyr, heb os, â budd gorau’r plentyn wrth galon, efallai na fyddant bob amser yn gwybod ac yn deall yn llawn effaith trawma a cholled gynnar ac yn mynegi ansicrwydd ynghylch sut i gynllunio, ymateb i a chynorthwyo plentyn wrth iddo symud i deulu newydd .
Pan na all plant ddychwelyd gartref yn ddiogel o ofal, mae mabwysiadu yn darparu sicrwydd cyfreithiol, cariad a pherthyn i deulu newydd. Fodd bynnag, mae mabwysiadu hefyd yn golygu bod yn rhaid gwahanu’r plentyn, sydd wedi dioddef trawma a cholled cynnar, oddi wrth deulu maeth lle maent wedi teimlo’n sicr ac wedi teimlo cariad, ynghyd ag arferion ac amgylchfyd cyfarwydd (Neil et al 2020). Er bod gan ymarferwyr a gofalwyr, yn ddi-os, fuddiannau gorau’r plentyn dan sylw, nid ydynt efallai bob amser yn gwybod am a deall yn llawn effaith trawma a cholled cynnar ac maent yn mynegi ansicrwydd o ran sut i gynllunio, ymateb a chynorthwyo plentyn wrth iddynt symud i deulu newydd.
Mae Kinship yn falch o lansio adroddiad newydd ar farn a phrofiadau ymarferwyr gwaith cymdeithasol sy’n arbenigo mewn gofal gan berthnasau.
Credir mai’r ymchwil, a gynhaliwyd gan Joan Hunt, Athro Anrhydeddus, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd, yw’r cyntaf i ganolbwyntio ar farn a phrofiadau’r ymarferwyr gwaith cymdeithasol hyn ac mae ganddo oblygiadau pwysig i bolisi ac ymarfer o amgylch gofal gan berthnasau.
Siaradodd ymarferwyr yn helaeth am gymhlethdod gofal gan berthnasau a’r heriau o weithio â theuluoedd ac o fewn systemau nad ydynt yn gweddu’n ddigonol i nodweddion ac anghenion unigryw teuluoedd sy’n berthnasau.
Fe wnaeth pedwar deg dau o ymarferwyr o 19 awdurdod lleol yn Lloegr a chwech yng Nghymru gymryd rhan yn yr ymchwil. Roedd y mwyafrif naill ai’n rhan o dîm perthnasau arbenigol neu wedi bod felly yn y gorffennol diweddar yn eu hawdurdodau lleol; roedd llawer hefyd yn rhan o’r Grŵp ‘Kinship Professionals’.
Mae gofalu am blant ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol cymhleth yn dasg feichus sy’n galw am lefel ychwanegol o rianta. Felly mae angen
cymorth penodol wedi’i deilwra i’w helpu i wella canlyniadau i’r plant hyn.
Yn y DU mae gennym yr oedran ifancaf o gyfrifoldeb troseddol yn Ewrop (10 oed)
Mae elfennau o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) a deddfwriaeth ddilynol arall yn sicrhau bod plant a phobl ifanc (a elwir yn bobl ifanc o fewn y system), 10 oed – 17, yn cael eu trin yn wahanol i oedolion sy’n troseddu ac yn cael mwy o fesurau diogelwch.
Mae’r llys ieuenctid yn rhan o’r llys ynadon ac yn delio â threialon a dedfrydu pobl ifanc, ac eithrio pan fo’r cyhuddiad yn ddifrifol iawn, lle byddant yn cael eu rhoi ar brawf yn Llys y Goron. Pan fyddan nhw’n sefyll eu prawf ochr yn ochr ag oedolyn, byddan nhw’n sefyll eu prawf yn y llys ynadon ar gyfer oedolion neu Lys y Goron, yn dibynnu ar y cyhuddiad
Mae’r nodyn ymarfer hwn yn cyfeirio at ddefnyddio ffurflen Iechyd Oedolion (AH) CoramBAAF. Defnyddir y ffurflen hon i goladu gwybodaeth gynhwysfawr gan ymgeisydd, ei feddyg teulu, ac sydd wedyn yn cael ei hasesu a chael sylwadau arni gan weithiwr meddygol proffesiynol cymwys sy’n gweithredu yn swydd Cynghorydd Meddygol.
Mae’r nodyn hwn yn ymgais i egluro’r gyfraith (ar ffurf rheoliadau a chanllawiau statudol / codau ymarfer) mewn perthynas â’r cymwysterau a’r profiad sy’n ofynnol i ymgymryd â gwaith darparwr gwasanaethau maethu.